Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Offerynnau Statudol Gydag Adroddiadau Clir

16 Mehefin 2014

 

 

CLA406 – Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2014

 

 Gweithdrefn: Negyddol

 

 Mae Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986 ("Rheoliadau 1986") yn caniatáu i swyddogion gorfodi sifil symud cerbydau y caniatwyd iddynt aros yn eu hunfan ar ffordd mewn ardal gorfodi sifil yng Nghymru. Mae Rheoliadau 1986 (fel y'u diwygiwyd gan Offerynnau Statudol 2008) yn cyfeirio at Reoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru)  2008 a Rheoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Parcio (Hysbysiadau Tâl Cosb, Gorfodi a Dyfarnu) (Cymru) 2008, sydd wedi'u dirymu a'u disodli.

 

Bwriedir i’r Rheoliadau hyn ddiwygio ymhellach Reoliadau 1986 i gyfeirio at Reoliadau Gorfodi Sifil ar Dramgwyddau Traffig Ffyrdd (Darpariaethau Cyffredinol) (Cymru) 2013.

 

CLA407 - Rheoliadau Addysg (Ymgynghori ar Ddyddiadau Tymhorau Ysgol) (Cymru) 2014

Gweithdrefn:  Negyddol

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu manylion am yr ymgynghoriad y bydd Gweinidogion Cymru yn ei gynnal cyn arfer eu pŵer cyfarwyddo i 'bennu' dyddiadau tymor ysgol  ar gyfer ysgolion a gynhelir yng Nghymru.

 

 

CLA408 -  Rheoliadau Iechyd Planhigion (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio deddfwriaeth ynghylch iechyd planhigion

sy’n gymwys yng Nghymru.

 

Mae rheoliad 2 yn diwygio Rheoliadau Tatws sy’n Tarddu o’r Aifft (Cymru) 2004 (O.S. 2004/2245 (Cy. 209)) i orfodi Penderfyniad Gweithredu’r Comisiwn 2011/787/EU, sy’n ymwneud â mesurau brys y caniateir eu cymryd yn erbyn lledaenu Ralstonia solanacearum (Smith) Yabuuchi et al. o ran tatws sy’n tarddu o’r Aifft.

 

Mae rheoliad 3 yn darparu ar gyfer porth gwybodaeth rhwng Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) a Gweinidogion Cymru at ddibenion Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 (O.S. 2006/1643 (Cy.158)) ac ar gyfer trosedd ynglŷn â datgelu gwybodaeth yn anghyfreithlon.

 

Mae rheoliad 4 yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Cymru) 2006 i orfodi Penderfyniad 1/2010 y Cyd-bwyllgor ar Amaethyddiaeth (2011/83/EU), sy’n ymwneud â rheolaethau ynghylch iechyd planhigion wrth fasnachu deunydd planhigion gyda’r Swistir.  

 

 

CLA409 - Gorchymyn Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (Swyddogaethau Atodol) 2014

 

Gweithdrefn:  Negyddol 

 

Mae adran 69(5) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru, drwy orchymyn, roi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (‘CCAUC’) unrhyw swyddogaethau atodol yn ymwneud â darparu addysg sy’n briodol yn eu barn hwy neu osod y swyddogaethau atodol hynny arno.

 

Mae’r Gorchymyn hwn yn rhoi swyddogaethau atodol i CCAUC. Mae’r swyddogaethau a roddir gan y Gorchymyn hwn yn swyddogaethau sy’n arferadwy gan Weinidogion Cymru mewn rheoliadau a wneir o dan adran 22 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.

 

 Mae’r swyddogaethau a roddir i CCAUC gan erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn ymwneud â thalu’r grant newydd at ffioedd i sefydliadau sy’n darparu addysg uwch (ac adennill gordaliadau o’r grant hwnnw) a gofyn am wybodaeth sy’n gysylltiedig â thalu’r grant newydd at ffioedd, a chael yr wybodaeth honno. Mae’r swyddogaethau hyn yn gymwys mewn cysylltiad â myfyrwyr sy’n dechrau cyrsiau addysg uwch dynodedig ar 1 Medi 2014 neu ar ôl hynny.

 

 

CLA410 - Gorchymyn Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (Diwygio) 2014

 

Gweithdrefn:  Gadarnhaol

 

Mae Rhan 2 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 (“y Mesur”) yn cyflwyno system o gynllunio cymunedol yng Nghymru. Mae adran 38(1) o’r Mesur yn darparu rhestr o gyrff cyhoeddus y cyfeirir atynt fel ‘partneriaid cynllunio cymunedol’ o dan Ran 2 o’r Mesur. Mae’n ofynnol i’r cyrff hyn gymryd rhan mewn gwaith cynllunio cymunedol. Mae’r rhestr hon yn cynnwys awdurdodau heddlu.

 

Yn unol â Deddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011 (“Deddf 2011”), cafodd awdurdodau heddlu eu diddymu a’u disodli gan Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu. I adlewyrchu’r newid a wnaed gan Ddeddf 2011, mae erthygl 2 o’r Gorchymyn hwn yn tynnu awdurdodau heddlu o’r rhestr o bartneriaid cynllunio cymunedol yn y Mesur ac yn gosod Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn eu lle.

 

 

CLA411 - Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014


Gweithdrefn:
Negyddol

 

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006 i adlewyrchu’r darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 ac mewn perthynas â’r broses o benodi, diswyddo a chynnal ymchwiliadau disgyblaethol o ran swyddogion penodol awdurdodau.

 

 

CLA412 - Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Newidiadau Ansylweddol a Chywiro Gwallau) (Cymru) 2014


Gweithdrefn: 
Gadarnhaol

Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â Chymru sy'n cyfateb i adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.  Mae'r Gorchymyn hefyd yn gwneud darpariaeth atodol yn adran 96A mewn perthynas â Chymru.  Mae Adran 96A(4) yn nodi mai dim ond newid ansylweddol y gall awdurdod cynllunio lleol ei wneud i ganiatâd cynllunio os caiff y cais ei wneud gan rywun sydd â diddordeb yn y tir dan sylw, neu ar gyfer y person hwnnw.  Mae Erthygl 2 yn ychwanegu is-adran (10) sy'n nodi pan fo gan berson "ddiddordeb yn y tir".

 

Mae Erthygl 3 yn gwneud darpariaeth sy'n cael yr un effaith ag adran 184 o Ddeddf Cynllunio 2008.  Tynnodd adran 184 y gofyniad yn adran 56 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 mewn perthynas â Lloegr, fod yn rhaid cael y caniatâd priodol er mwyn cywiro gwall mewn dogfen penderfyniad.  Mae'r gwelliannau yn erthygl 3 yn dileu'r gofyniad i gael caniatâd i gywiro gwallau mewn dogfennau penderfyniad mewn perthynas â Chymru.

 

CLA413 - Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Ffioedd am Newidiadau Ansylweddol) (Cymru) 2014

Gweithdrefn:  Gadarnhaol


Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer talu ffioedd i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru o ran ceisiadau i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio a wneir o dan adran 96A o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer eithriadau o'r ffioedd hynny mewn amgylchiadau penodol.